2019 Rhif (Cy. )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013.

Mae’r diwygiadau yn gosod chwe dyletswydd gyffredin, sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ar ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru drwy eu priod delerau cytundeb, contract a/neu wasanaeth â Byrddau Iechyd Lleol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2019 Rhif (Cy. )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

                        Gwnaed                                      8 Mai 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Mai 2019

     Yn dod i rym                                30 Mai 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 47(1) a (2), 61(1) a (2), 66(1) a (3), 71(10), 72(1), 80(1) a (2) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 30 Mai 2019.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986

2.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

Welsh Language

5A.—(1) Where the contractor([3]) provides general ophthalmic services([4]) through the medium of Welsh, the contractor must notify the Local Health Board([5]) in writing.

(2) The contractor must make available a Welsh language version of any document or form for use by patients([6]) and/or members of the public, provided by the Local Health Board.

(3) Where the contractor displays a new sign or notice in connection with general ophthalmic services the text on the sign or notice must be in English and Welsh, and the contractor may utilise the translation service offered by the Local Health Board for this purpose.

(4) The contractor must encourage the wearing of a badge, provided by the Local Health Board, by those delivering general ophthalmic services who are Welsh speaking, to convey that they are able to speak Welsh.

(5) The contractor must encourage those delivering general ophthalmic services to utilise information and/or attend training courses and events provided by the Local Health Board, so that they can develop—

(a)   an awareness of the Welsh language (including awareness of its history and its role in Welsh culture); and

(b)   an understanding of how the Welsh language can be used when delivering general ophthalmic services.

(6) The contractor must encourage those delivering general ophthalmic services to establish and record the Welsh or English language preference expressed by or on behalf of a patient.

Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004

3.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004([7]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 6, yn Rhan 1, ar ôl paragraff 13 mewnosoder—

Welsh Language

13A.—(1) Where the contractor([8]) provides medical services under the contract([9]) through the medium of Welsh, it must notify the Local Health Board([10]) in writing.

(2) The contractor must make available a Welsh language version of any document or form for use by patients([11]) and/or members of the public, provided by the Local Health Board.

(3) Where the contractor displays a new sign or notice in connection with medical services provided under the contract, the text on the sign or notice must be in English and Welsh, and the contractor may utilise the translation service offered by the Local Health Board for this purpose.

(4) The contractor must encourage the wearing of a badge, provided by the Local Health Board, by those delivering medical services under the contract who are Welsh speaking, to convey that they are able to speak Welsh.

(5) The contractor must encourage those delivering medical services under the contract to utilise information and/or attend training courses and events provided by the Local Health Board, so that they can develop—

(a)   an awareness of the Welsh language (including awareness of its history and its role in Welsh culture); and

(b)   an understanding of how the Welsh language can be used when delivering medical services under the contract.

(6) The contractor must encourage those delivering medical services under the contract to establish and record the Welsh or English language preference expressed by or on behalf of a patient.

Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006

4.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006([12]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 3, yn Rhan 2, ar ôl paragraff 17 mewnosoder—

Welsh Language

17A.—(1) Where the contractor([13]) provides dental services under the agreement([14]) through the medium of Welsh, it must notify the Local Health Board([15]) in writing.

(2) The contractor must make available a Welsh language version of any document or form for use by patients([16]) and/or members of the public, provided by the Local Health Board.

(3) Where the contractor displays a new sign or notice in connection with dental services provided under the agreement, the text on the sign or notice must be in English and Welsh, and the contractor may utilise the translation service offered by the Local Health Board for this purpose.

(4) The contractor must encourage the wearing of a badge, provided by the Local Health Board, by those delivering dental services under the agreement who are Welsh speaking, to convey that they are able to speak Welsh.

(5) The contractor must encourage those delivering dental services under the agreement to utilise information and/or attend training courses and events provided by the Local Health Board, so that they can develop—

(a)   an awareness of the Welsh language (including awareness of its history and its role in Welsh culture); and

(b)   an understanding of how the Welsh language can be used when delivering dental services under the agreement.

(6)  The contractor must encourage those delivering dental services under the agreement to establish and record the Welsh or English language preference expressed by or on behalf of a patient.

Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006

5.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006([17]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 3, yn Rhan 2, ar ôl paragraff 16 mewnosoder—

Welsh Language

16A.—(1) Where the contractor([18]) provides dental services under the contract([19]) through the medium of Welsh, it must notify the Local Health Board([20]) in writing.

(2) The contractor must make available a Welsh language version of any document or form for use by patients([21]) and/or members of the public, provided by the Local Health Board.

(3) Where the contractor displays a new sign or notice in connection with dental services provided under the contract, the text on the sign or notice must be in English and Welsh, and the contractor may utilise the translation service offered by the Local Health Board for this purpose.

(4) The contractor must encourage the wearing of a badge, provided by the Local Health Board, by those delivering dental services under the contract who are Welsh speaking, to convey that they are able to speak Welsh.

(5) The contractor must encourage those delivering dental services under the contract to utilise information and/or attend training courses and events provided by the Local Health Board, so that they can develop—

(a)   an awareness of the Welsh language (including awareness of its history and its role in Welsh culture); and

(b)   an understanding of how the Welsh language can be used when delivering dental services under the contract.

(6) The contractor must encourage those delivering dental services under the contract to establish and record the Welsh or English language preference expressed by or on behalf of a patient.

Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

6.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013([22]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 4, yn Rhan 5, ar ôl paragraff 35 mewnosoder—

Y Gymraeg

35A.—(1) Pan fo fferyllydd GIG([23]) yn darparu gwasanaethau fferyllol([24]) drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid i’r fferyllydd GIG hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol([25]) sydd â’r fferyllydd GIG hwnnw ar ei restr fferyllol([26]), mewn ysgrifen.

(2) Rhaid i fferyllydd GIG roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen i’w defnyddio gan gleifion a/neu aelodau o’r cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3) Pan fo fferyllydd GIG yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid i’r testun ar yr arwydd neu’r hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff fferyllydd GIG ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4) Rhaid i fferyllydd GIG annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau fferyllol ac sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(5) Rhaid i fferyllydd GIG annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gallant ddatblygu—

(a)   ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru); a

(b)   dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg mewn cysylltiad â’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6) Rhaid i fferyllydd GIG annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau fferyllol i ganfod a chofnodi’r dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan neu ar ran claf.

(3) Yn Atodlen 5, ar ôl paragraff 23 mewnosoder—

Y Gymraeg

23A.—(1) Pan fo contractwr cyfarpar GIG([27]) yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol sydd â’r contractwr cyfarpar GIG hwnnw ar ei restr fferyllol, mewn ysgrifen.

(2) Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen i’w defnyddio gan gleifion a/neu aelodau o’r cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3) Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid i’r testun ar yr arwydd neu’r hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff contractwr cyfarpar GIG ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4) Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau fferyllol ac sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(5) Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gallant ddatblygu—

(a)   ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru); a

(b)   dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg mewn cysylltiad â’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6) Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau fferyllol i ganfod a chofnodi’r dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan neu ar ran claf.”

(4) Yn Atodlen 6, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

Y Gymraeg

12.—(1) Pan fo meddyg fferyllol([28]) yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid i’r meddyg fferyllol hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol mewn ysgrifen.

(2) Rhaid i feddyg fferyllol roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen i’w defnyddio gan gleifion a/neu aelodau o’r cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3) Pan fo meddyg fferyllol yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid i’r testun ar yr arwydd neu’r hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff meddyg fferyllol ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4) Pan fo meddyg fferyllol yn siarad Cymraeg, fe’i hanogir i wisgo bathodyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu bod y meddyg fferyllol yn gallu siarad Cymraeg.

(5) Anogir meddyg fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gall y meddyg fferyllol ddatblygu—

(a)   ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru); a

(b)   dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg mewn cysylltiad â’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6) Wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, anogir meddyg fferyllol i ganfod a chofnodi’r dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan neu ar ran claf.

 

 

 

 

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Mai 2019

 



([1])           2006 p. 42.

([2])           O.S. 1986/975 (“Rheoliadau 1986”), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. 

 

([3])           Gweler y diffiniad o “contractor” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1986.

([4])           Gweler y diffiniad o “general ophthalmic services” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1986.

([5])           Gweler y diffiniad o “Local Health Board” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1986, sy’n cyfeirio at adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49). Diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43) ac ailddeddfwyd adran 16BA o ran Cymru fel adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

([6])           Gweler y diffiniad o “patient” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1986.

([7])           O.S. 2004/478 (Cy. 48) (“Rheoliadau 2004”), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([8])           Gweler y diffiniad o “contractor” yn adran 42(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

([9])           Gweler y diffiniad o “contract” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1986, sy’n cyfeirio at adran 28Q o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 ac ailddeddfwyd adran 28Q o ran Cymru fel adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

([10])         Gweler y diffiniad o “Local Health Board” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2004.

([11])         Gweler y diffiniad o “patient” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2004.

([12])         O.S. 2006/489 (Cy. 58) (“y Rheoliadau GDP”), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. 

([13])         Gweler y diffiniad o “contractor” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau GDP.

([14])         Gweler y diffiniad o “agreement” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau GDP.

([15])         Gweler y diffiniad o “Local Health Board” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau GDP.

([16])         Gweler y diffiniad o “patient” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau GDP.

([17])         O.S. 2006/490 (Cy. 59) (“y Rheoliadau GDC”), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([18])         Gweler y diffiniad o “contractor” yn adran 57(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

([19])         Gweler y diffiniad o “contract” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau GDC.

([20])         Gweler y diffiniad o “Local Health Board” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau GDC.

([21])         Gweler y diffiniad o “patient” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau GDC.

([22])         O.S. 2013/898 (Cy. 102) (“Rheoliadau 2013”), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([23])         Gweler y diffiniad o “fferyllydd GIG” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013.

([24])         Gweler y diffiniad o “gwasanaethau fferyllol” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013.

([25])         Gweler y diffiniad o “Bwrdd Iechyd Lleol” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013.

([26])         Gweler y diffiniad o “rhestr fferyllol” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013.

([27])         Gweler y diffiniad o “contractwr cyfarpar GIG” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013.

([28])         Gweler y diffiniad o “meddyg fferyllol” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013.